Teruel
Gwedd
| Math | bwrdeistref Sbaen |
|---|---|
| Prifddinas | Teruel |
| Poblogaeth | 36,655 |
| Pennaeth llywodraeth | Emma Buj |
| Gefeilldref/i | |
| Nawddsant | Fernando III, brenin Castilia |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 440.414455 ±1e-06 km² |
| Uwch y môr | 915 ±1 metr |
| Yn ffinio gyda | Albarracín, Alfambra, Villastar, Rubiales, Cella, Celadas, Peralejos, Cuevas Labradas, Corbalán, La Puebla de Valverde, Cubla |
| Cyfesurynnau | 40.343611°N 1.107222°W |
| Cod post | 44001–44003 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Teruel |
| Pennaeth y Llywodraeth | Emma Buj |
![]() | |
Dinas yng nghymuned ymreolaethol Aragón, Sbaen, yw Teruel. Mae'n brifddinas Talaeth Teruel, a gyda poblogaeth o 34,240 yn 2006, hi yw'r briffddinas talaith leiaf ei phoblogaeth yn Sbaen. Saif lle mae Afon Guadalaviar ac Afon Alfambra yn cyfarfod, 915 medr uwch lefel y môr.
Ar ddechrau Rhyfel Cartref Sbaen, cipiwyd Teruel gan gefnogwyr Franco. Llwyddodd milwyr y weriniaeth i adfeddiannu'r ddinas, yr unig ddinas iddynt ei chipio yn ystod y rhyfel, ond ar 22 Chwefror 1938 cipiodd milwyr Franco y ddinas eto.
Nodwedd fwyaf arbennig Teruel yw ei phensaernïaeth mudéjar, a enwyd fel Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Mae Eglwys Gadeiriol Santa María de Teruel hefyd yn nodedig.

