Mir
Gwedd
| Enghraifft o: | gorsaf ofod, space laboratory, lloeren artiffisial o'r Ddaear, endid a fu, international space station |
|---|---|
| Màs | 129,700 ±1 cilogram |
| Dechrau/Sefydlu | 1986 |
| Yn cynnwys | Mir Core Module, Kvant-1, Kvant-2, Kristall, Spektr, Priroda, Mir Docking Module |
| Enw brodorol | Мир |
| Gwladwriaeth | Yr Undeb Sofietaidd, Rwsia |
| Hyd | 19 ±1 metr |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0kzv7 |
Gorsaf ofod oedd Mir (Rwsieg: Мир, IPA: [ˈmʲir]; sef "heddwch"). Cafodd ei lansio gan yr Undeb Sofietaidd yn 1986, a pharhaodd y gwaith adeiladu tan y 1990au cynnar. Tan lansiad yr Orsaf Ofod Rhyngwladol (International Space Station), Mir oedd yr orsaf ofod fwyaf yn hanes y gofod. Ymwelodd nifer o ofodwyr yr Unol Daleithiau â'r orsaf yng nghanol y 1990au; gwelwyd y prosiect hwn fel cam pwysig yng nghyd-weithredio Rwsia ac Unol Daleithiau America yn y gofod. Syrthiodd o'i orbit yn 2001.
